Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (104)v2 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
|
3. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5131 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i wladoli Maes Awyr Caerdydd; a
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu tystiolaeth y bydd prynu Maes Awyr Caerdydd yn werth am arian ac o fudd i drethdalwyr Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi nad yw prynu maes awyr yn flaenoriaeth fel y nodwyd yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn nodi ymhellach nad yw’n flaenoriaeth yn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.
Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/?skip=1&lang=cy
Gellir gweld y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/topics/transport/publications/ntp/?skip=1&lang=cy
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfres glir o amcanion mesuradwy ar gyfer prynu Maes Awyr Caerdydd a chyflwyno rhaglen ddatblygu gredadwy ar gyfer sicrhau busnes llwyddiannus yno. |
4. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5129 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn dathlu bod y Gymraeg yn rhan annatod a hanfodol o ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac yn croesawu bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi codi mewn nifer o ardaloedd nad ydynt yn rhai traddodiadol;
2. Yn gresynu’n arw wrth y gostyngiad yn nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2011;
3. Yn nodi bod angen gweithredu ar unwaith i wneud iawn am y gostyngiad a sicrhau dyfodol Cymru fel cenedl ddwyieithog;
4. Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth y DU i dorri rhagor ar gyllideb S4C dros y ddwy flynedd nesaf a hithau’n adeg pan ddylai pawb fod yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer yr iaith; a
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu’r canlynol, er mwyn cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu a nodir yn ‘Iaith fyw: iaith byw’:
a) hybu a chefnogi mentergarwch gan siaradwyr Cymraeg, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle mae’r iaith yn dal i gael ei siarad yn eang;
b) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi cymunedau a diwydiannau creadigol sy’n siarad Cymraeg;
c) rhoi’r safonau Cymraeg arfaethedig ar sail gyfreithiol;
d) hybu twf a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, gan ddechrau gydag awdurdodau cyhoeddus a gweithio gyda’r sector preifat;
e) sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer addysgu’r Gymraeg fel ail iaith i oedolion ac i blant;
f) cynllunio a hybu’r achos dros ddatganoli darlledu a datganoli swyddi darlledu yn fewnol;
g) diwygio’r system gynllunio er mwyn i awdurdodau lleol allu osod cap ar nifer yr ail gartrefi mewn lleoliadau penodol; a
h) ymchwilio i sut y gall polisïau caffael gefnogi’r gweithlu a’r gymuned leol i ddefnyddio’r Gymraeg a hybu defnyddio polisïau o’r fath.
Mae ‘Iaith fyw: iaith byw’ ar gael yn:
http://wales.gov.uk/topics/welshlanguage/publications/wlstrategy2012/?skip=1&lang=cy
Mae canlyniadau cyfrifiad 2011 ar gael yn:
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 newydd er i'r ymgynghoriad ar y nodyn technegol newydd ddod i ben ym mis Mehefin 2011.
Gellir gweld yr ymgynghoriad ar Nodyn Cyngor Technegol Drafft 20 yn:
http://wales.gov.uk/consultations/planning/tan20consultation/?skip=1&lang=cy
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn llongyfarch Comisiynydd y Gymraeg ar yr ymgynghoriad trylwyr a chynhwysfawr a gynhaliodd parthed y safonau Cymraeg arfaethedig ac yn cefnogi'r safonau fel y'u cyhoeddwyd ganddi ym mis Tachwedd 2012.
Gellir gweld y safonau a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd y Gymraeg yn:
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod pwysigrwydd S4C modern ac effeithlon ac yn croesawu cefnogaeth barhaus Llywodraeth y DU i’r darlledwr ar adeg pan fo penderfyniadau gwariant anodd yn gorfod cael eu gwneud.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos y camau gweithredu y mae’n eu cymryd er mwyn cefnogi’r chwe ardal strategol ar gyfer gweithredu a nodir yn “Iaith Fyw: Iaith Byw” ac yn benodol i:
(a) hyrwyddo a chefnogi entrepreneuriaeth ymysg Cymry Cymraeg;
(b) annog twf y Gymraeg a’r defnydd ohoni yn y gweithle a hyrwyddo’r defnydd o Nod Siarter Cymraeg i gydnabod gwasanaethau Cymraeg o ansawdd uchel;
(c) hyrwyddo manteision economaidd sgiliau dwyieithog mewn ardaloedd economaidd difreintiedig;
(d) ymchwilio i sut gall polisïau caffael gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg;
(e) ystyried rhinweddau gosod y safonau Cymraeg arfaethedig, ar ôl eu cytuno, ar sail statudol;
(f) buddsoddi mewn seilwaith, yn enwedig band eang, i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y diwydiannau creadigol ac mewn bywyd bod dydd mewn cymunedau;
(g) archwilio pam nad oes rhagor o bobl ifanc yn ystyried eu bod yn gallu siarad Cymraeg ar ôl degawd o ddysgu Cymraeg yn orfodol mewn ysgolion, ac i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer dysgu Cymraeg fel ail iaith;
(h) adrodd ar lefel y pwys a roddir gan bob awdurdod lleol ar dwf a chynaliadwyedd y defnydd o'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau cynllunio yn eu hardaloedd;
(i) archwilio pa feysydd o’r diwydiant darlledu yng Nghymru a allai fod yn atebol i Lywodraeth Cymru ac i Lywodraeth y DU ac yna dadlau’r achos dros rannu cyfrifoldeb
[Os derbynnir gwelliant 4, bydd gwelliannau 5 a 6 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 5 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o weld y Gymraeg yn ffynnu, ynghyd â’r chwe maes gweithredu a amlinellir yn Strategaeth y Gymraeg 2012-17, Iaith Fyw: Iaith Byw, sef:
a) annog a chefnogi'r defnydd o'r Gymraeg o fewn teuluoedd;
b) cynyddu’r ddarpariaeth o weithgareddau Cymraeg ar gyfer plant a phobl ifanc a chynyddu eu hymwybyddiaeth o werth yr iaith;
c) cryfhau safle’r Gymraeg o fewn y gymuned;
d) cynyddu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle;
e) gwella gwasanaethau Cymraeg ar gyfer dinasyddion; ac
f) cryfhau’r seilwaith ar gyfer yr iaith, gan gynnwys technoleg ddigidol.
[Os derbynnir gwelliant 4 neu 5, bydd gwelliant 6 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd pwynt 5 g):
‘a gosod asesiadau iaith annibynnol ar sail statudol drwy ddeddfwriaeth sylfaenol.’
Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Weinidogion Cymru i weithredu ar eu haddewid i brif-ffrydio’r Gymraeg ar draws holl weithgareddau Llywodraeth Cymru drwy:
(a) mynnu bod corff annibynnol yn cynnal adolygiad cyflawn o holl wariant y Llywodraeth ac i asesu’r berthynas rhwng y gwariant hwnnw a’r Gymraeg - sef mesur ôl-troed ieithyddol y gwariant - ac, o hyn ymlaen, cynnal asesiad effaith iaith cyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru bob blwyddyn;
(b) cynnwys lles y Gymraeg fel rhan o’r diffiniad statudol o ddatblygu cynaliadwy yn y Bil Datblygu Cynaliadwy arfaethedig; ac
(c) sefydlu marchnad lafur cyfrwng Cymraeg a fydd yn cynnwys monitro’r angen am weithlu cyfrwng Cymraeg mewn sectorau a lleoliadau ledled Cymru a chynllunio i ateb y galw am weithlu â sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys sicrhau cynllun hyfforddiant uchelgeisiol Cymraeg yn y gweithle. |
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM5130 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cefnogi trydaneiddio Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
‘ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda’r bwriad o gyflawni hynny.’ |
Cyfnod Pleidleisio |
6. Dadl Fer (30 munud)
NDM5128 Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru):
‘Sut y mae mynd â Busnes Cymru yn Rhyngwladol’
Yr angen am Gyngor Menter i Gymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2013